Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i sicrhau bod pob ysgol gynradd yng Nghymru yn addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Os ydym ni a Chynulliad Cymru yn wirioneddol ymrwymedig i adfer yr iaith Gymraeg a chreu Cymru ddwyieithog, mae angen gweithredu. Rwy’n cytuno nad oes modd gwneud hynny dros nos; mae materion fel niferoedd athrawon a’r mater o’r cyfnod o drosi’r ysgolion o fod yn rhai cyfrwng Saesneg i fod yn rhai cyfrwng Cymraeg. Mae Cynulliad Cymru wedi pwysleisio pwysigrwydd cael cymunedau o siaradwyr Cymraeg. Bydd hynny ond yn digwydd os bydd mwyafrif y plant sy’n gadael ysgol dros sawl cenhedlaeth yn gallu siarad Cymraeg yn rhugl.
Prif ddeisebydd:Phillip Worth
Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 21 Ionawr 2014
Nifer y llofnodion: tbc